Hoci Iau'n Ffynnu yn Sir Gaerfyrddin

Hoci Iau'n Ffynnu yn Sir Gaerfyrddin

Gan weithio'n agos gyda Hoci Cymru, corff llywodraethu cenedlaethol y gamp, mae swyddogion yn creu cysylltiadau cryf â chlybiau yn y sir, gan helpu i rannu arferion gorau gyda phwyslais ar wella hoci iau drwy ddatblygiad ysgolion a chlybiau.

Gyda phwyslais ar fwynhau a chymryd rhan, mae cynghrair gymysg iau wedi cael ei sefydlu i roi cyfleoedd i chwaraewyr iau na fyddent fel arall wedi cael cyfle i chwarae mewn gemau. Mae'r gynghrair hefyd wedi rhoi cyfleoedd i'r rheiny sy'n mynychu sesiynau hoci yn y canolfannau hamdden nad ydynt yn gysylltiedig â chlwb, sy'n sicrhau bod y clwb ar agor i'r holl blant rhwng 10 a 15 oed.

A ninnau'n hanner ffordd drwy'r tymor, mae'r gynghrair yn mynd yn dda ac mae dros 100 o fechgyn a merched yn dod ar fore dydd Sul unwaith y mis i chwarae hoci, felly mae dyfodol y gamp yn edrych yn ddisglair iawn. Mae'r gynghrair wedi symud o gwmpas y sir o Ganolfan Hamdden Caerfyrddin a Chanolfan Hamdden Dyffryn Aman i'r Teigrod hefyd, gan annog pob plentyn o bob rhan o'r sir i gymryd rhan. 

Dyma'r gemau nesaf…

 

Diwrnod/Dyddiad  Amser Lleoliad
Dydd Sul 5 Chwefror  10-12  Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
Dydd Sul 5 Mawrth   10-12 Teigrod
Dydd Sul 2 Ebrill   10-12 Canolfan Hamdden Caerfyrddin                                                       

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gynghrair hoci iau cysylltwch â'ch clwb lleol.