
Mae’n hawdd cael Tocyn Hamdden ac fe fydd yn rhoi gostyngiad o hyd at 40%* ichi ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yn unrhyw un o’r pedair canolfan hamdden a restrir isod. Cynigir gostyngiad ar gyfer y gweithgareddau canlynol: y stiwdio ffitrwydd, y pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a gêmau raced.
Mae'r cyfleusterau canlynol yn rhan o'r Cynllun:
Canolfannau Hamdden Caerfyrddin, Castellnewydd Emlyn, Llanelli a Dyffryn Aman.
Cynigir gostyngiadau o hyd at 40% ar gyfer gweithgareddau detholedig yn y canolfannau hamdden a enwir uchod yn ystod yr oriau tawel. Cynigir gostyngiad o 10% ar adegau eraill. I weld manylion llawn y gostyngiadau a gynigir, edrychwch ar y daflen Rhestr Brisiau yn un o'r canolfannau hamdden sy'n rhan o'r cynllun hwn. Ystyr oriau tawel yw o'r adeg pan mae'r ganolfan yn agor hyd at 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a thrwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yn amodol ar yr oriau agor cyhoeddus.
Mae'r Categorïau'n cynnwys:
- Tocyn Myfyriwr
- Tocyn Budd
- Tocyn Hŷn a Heini
- Tocyn Teyrngarwch (10% o ostyngiad bob amser)
Mae'r Tocyn Myfyriwr ar gael i:
- Myfyrwyr / Disgyblion mewn addysg
14 oed a hŷn
Mae'r Tocyn Budd ar gael i:
- Y sawl sy'n cael budd-daliadau*
- Hefyd, plant dibynnol 16 oed ac iau rhywun sy'n meddu ar Docyn Budd ac sy'n byw yn yr un cyfeiriad
*Mae'r sawl sy'n cael y budd-daliadau canlynol yn gymwys i wneud cais:
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Analluogrwydd
- Budd-dal Tai / Budd-dal y Dreth Gyngor
- Lwfans Byw i'r Anabl
- Lwfans Gofal Analluedd
Lwfans Anabledd Difrifol a mathau eraill o Lwfansau a Budd-daliadau Anabledd
Mae'r Tocyn Hŷn a Heini ar gael i:
Yr holl gwsmeriaid 50 oed a hŷn
Mae'r Tocyn Teyrngarwch ar gael i:
- Yr holl gwsmeriaid
- Wedi'i rannu yn: Tocyn Teyrngarwch Oedolyn (dros 16 oed) a Thocyn Teyrngarwch Iau (16 oed ac iau)
Y ffïoedd ymuno ar gyfer y cynllun yw:
Tocyn Hamdden
|
Cost
|
Hyd
|
Tocyn Myfyriwr
|
&10.00
|
12 mis
|
Tocyn Budd
|
&5.00
|
6 mis
|
Tocyn Budd i Blant Dibynnol
|
Am ddim
|
6 mis
|
Tocyn Hŷn a Heini
|
&10.00
|
12 mis
|
Tocyn Teyrngarwch (Oedolyn)
|
&10.00
|
12 mis
|
Tocyn Teyrngarwch (Iau)
|
&5.00
|
12 mis
|