Rydym yn gwybod nad yw'n hawdd cael eich cymell i ymarfer o hyd, felly gadewch i ni eich cyflwyno i Synrgy 360 a allai wneud eich trefn ymarfer yn fwy diddorol wrth barhau i’ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd.
P'un a ydych am fod yn fwy ffit, colli pwysau neu gryfhau - bydd Synrgy 360 yn eich helpu i gyrraedd yno ac yn gyflymach.
Cynnig arbennig y Gwanwyn
Am gyfnod cyfyngedig yn unig, rydym yn cynnig aelodaeth ganlynol am HANNER PRIS am un mis yn unig;
- Aelodaeth Synrgy (ychwanegol) am aelodau newydd a phresennol – DIM OND &7*
- Aelodaeth Synrgy (ychwanegol) am aelodau Iau newydd a phresennol – DIM OND &5*
- Aelodaeth offer Synrgy yn unig am aelodau newydd a phresennol – DIM OND &10*
- Aelodaeth offer Synrgy yn unig am aelodau Iau newydd a phresennol – DIM OND &7*
*Un mis yn unig. 2 ddosbarth Synrgy yr wythnos fesul person. Dim ond ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Cynnig yn gorffen 30 Ebrill 2017.
Beth all dosbarthiadau Synrgy 360 ei gynnig i chi?
- Ymarfer amlswyddogaethol gyda chyfleoedd di-ri i hyfforddi yn gallach, yn well ac yn fwy effeithiol.
- Ymarfer i’r corff cyfan sy’n cyfuno ymarfer cardiofasgwlaidd a chryfder dwysedd uchel mewn 30 munud
- Mae pob sesiwn yn unigryw gyda gwahanol gyfuniadau
- Gweithiwch ar eich cyflymder eich hun a heriwch eich hun. Mae lle i wella bob amser, felly ni fyddwch byth yn diflasu ar geisio gwella eich hun ym mhob dosbarth.
- Ac yn bwysicaf oll MAE'N HWYL!
- Amrywiaeth o ddosbarthiadau ar gyfer gwahanol lefelau ffitrwydd
Mae dosbarthiadau Synrgy dim ond yn para 30 munud sy'n golygu eich bod yn gallu eu gwasgu i mewn cyn i chi ddechrau gweithio, yn ystod eich awr ginio neu yn syth ar ôl y gwaith, sy'n golygu y gallwch ymarfer ar adeg sy’n gyfleus i chi.
I fanteisio ar y cynnig hwn, ymaelodwch ar-lein neu ewch i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin a gofyn am fanylion wrth y dderbynfa.
Ddim yn aelod?
Ymaelodwch i fwynhau'r gampfa, dosbarthiadau a nofio am gyn lleied â &24 y mis ar draws pob un o'n 5 Clybiau Ffitrwydd Actif. Cliciwch yma i ymuno heddiw!