Rhaglenni Aml-chwaraeon NEWYDD i Blant yn lansio'n fuan, y cyntaf yng Nghymru!

Rhaglenni Aml-chwaraeon NEWYDD i Blant yn lansio'n fuan, y cyntaf yng Nghymru!

Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ein Rhaglenni Aml-chwaraeon i Blant sy'n dechrau'n fuan!

Bydd y rhaglenni NEWYDD i blant yn cynnwys Sgiliau ar gyfer Chwaraeon a rhaglenni Aml-chwaraeon fydd yn rhoi eich plant ar y trywydd i fod yn Actif!

Bydd y rhaglenni newydd hyn yn helpu plant i:

  • Ddysgu sgiliau corfforol sylfaenol
  • Datblygu hyder a gwneud penderfyniadau
  • Cadw'n iach
  • Cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd
Bydd y rhaglenni'n rhoi pwyslais ar gael y plant i ddysgu a meistroli sgiliau chwaraeon ar eu cyflymder eu hunain er mwyn eu helpu i ddatblygu ymhellach ac i chwarae camp o'u dewis nhw. Mae plant yn dysgu ac yn datblygu ar wahanol raddfeydd ac mae ein rhaglenni'n cydnabod hyn, felly ble maen nhw arni sy'n bwysig nid eu hoedran.
 

Rhagor o wybodaeth am y rhaglenni

 

Pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon

Yn ystod sesiynau'r pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon  bydd plant yn dysgu ac yn gwella sgiliau symud sylfaenol megis cydbwyso, neidio, taflu a dal fel bod ganddyn nhw'r holl sgiliau sylfaenol y mae eu hangen arnyn nhw i fynd ymlaen i chwarae unrhyw gamp.

Ar ddechrau'r rhaglen bydd pob plentyn yn cael pasbort fel bod modd iddyn nhw olrhain eu cynnydd a bydd digon o stampiau a sticeri ar hyd y ffordd! Ar ôl cwblhau Sgiliau ar gyfer Chwaraeon gallan nhw ddewis un o'n rhaglenni Aml-chwaraeon lle byddan nhw'n parhau i ddysgu sgiliau ar gyfer camp benodol.
 
 

Rhaglenni Pasbort Aml-chwaraeon
Ar ôl cwblhau'r pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon bydd y plant yn symud ymlaen i un o'n rhaglenni Aml-chwaraeon lle byddan nhw'n dysgu ac yn gwella sgiliau ar gyfer camp benodol.

Y pasbortau Chwaraeon sydd ar y gweill yw Pêl-rwyd Mini, Hoci Mini a Beicio Mini.

Mae gan bob pasbort 3 cham (coch, oren a gwyrdd) ac ar bob cam bydd plant yn dysgu ac yn meistroli gwahanol sgiliau.
Ar ôl cwblhau'r pasbort, bydd y plant yn barod i chwarae camp o'u dewis mewn clwb chwaraeon cymunedol lle byddan nhw'n parhau i ddysgu ar lefel leol / cenedlaethol neu ryngwladol.

 
Hoffech chi fod ymhlith y cyntaf i glywed am y Rhaglenni NEWYDD hyn?
Llenwch y ffurflen isod a rhown y wybodaeth ddiweddaraf i chi