
A ydych chi'n paratoi ar gyfer eich triathlon cyntaf neu'n awyddus i gael eich perfformiad gorau yn eich digwyddiad nesaf? Gallwn eich helpu i wella pa bynnag agwedd ar eich nofio yr hoffech wella drwy ein rhaglen FAST.
Mae ein rhaglen FAST yn sesiynau nofio dan arweiniad hyfforddwyr i'r rhai sy'n chwilio am sesiynau o ansawdd uchel sydd wedi'u hanelu at wella techneg, cyflymder a dygnwch.
Mae'r adborth arbenigol a'r cymorth yr ydych yn eu cael bob wythnos yn sicrhau eich bod yn gwella yn y meysydd yr ydych am ganolbwyntio arnynt. Bydd ein hyfforddwyr yn nodi unrhyw wendidau yn eich dull nofio ac yn gosod ymarferion ar eich cyfer i'ch helpu i gywiro eich techneg.
Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich cynnydd gan yr hyfforddwr ac os oes gennych unrhyw gwestiynau mae ein hyfforddwyr wrth law i'w hateb i sicrhau eich bod yn elwa cymaint â phosibl ar y sesiynau.
Mae'r sesiynau hyn yn gyfle gwych i chi gwrdd ag athletwyr triathlon a nofwyr tebyg i chi sy'n awyddus i wella eu dull nofio.
Cynnwys y sesiwn;
sesiwn 45 munud wedi'i strwythuro ar gyfer pob gallu
Cyngor ar dechneg
Gwaith ar gyflymder a dygnwch
Hyfforddwr yn cofnodi ac yn dadansoddi cynnydd
Adborth rheolaidd gan yr hyfforddwr
Mae'r sesiynau FAST ar gael yn y safleoedd canlynol yn unig ar hyn o bryd ond rydym yn awyddus i ymestyn y rhaglen i byllau nofio Caerfyrddin a Llanymddyfri yn fuan iawn;
- Canolfan Hamdden Llanelli
- Canolfan Hamdden Rhydaman
Dewisiadau o ran aelodaeth
Dewiswch un aelodaeth o'r canlynol i chi gael cychwyn arni heddiw. Gallwch ymuno ar-lein heddiw neu ymweld â Llanelli neu Rhydaman
FAST
Mae'r aelodaeth hon yn cynnig 2 sesiwn yr wythnos (45 munud yr un) gyda hyfforddwr.
|
&22.00 y mis
|
YMUNWCH AR-LEIN
|
FAST - Cynnig Ychwanegol
Gellir ychwanegu'r aelodaeth hon at ein haelodaeth graidd e.e. Aelodaeth Aelwyd, Platinwm, Efydd, myfyriwr neu dros 60 oed ac mae'n cynnig 2 sesiwn yr wythnos gyda hyfforddwr
|
&16.50 y mis
|
YMUNWCH AR-LEIN
|
FAST - Ysgafn
Mae'r aelodaeth hon yn cynnig 1 sesiwn yr wythnos gyda hyfforddwr
|
&11.00 y mis
|
YMUNWCH AR-LEIN
|
FAST - Cynnig Ychwanegol Ysgafn
Gellir ychwanegu'r aelodaeth hon at ein haelodaeth graidd e.e. Aelwyd, Platinwm, Efydd, myfyriwr neu dros 60 oed ac mae'n cynnig 1 sesiwn yr wythnos gyda hyfforddwr
|
&8.75 y mis
|
YMUNWCH AR-LEIN
|