Cymry Coch

Cymry Coch

Bydd Gemau’r Gymanwlad 2018 yn dechrau cyn hir.

Rhwng 4-5 Ebrill bydd Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal ar yr Arfordir Aur yn Awstralia wrth i fwy na 6,600 o athletwyr a swyddogion o 70 o wledydd y Gymanwlad gymryd rhan.

 

Llongyfarchiadau a phob lwc i’r athletwyr.

Wedi cael eich ysbrydoli?

Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar thema’r Gymanwlad yn ein parciau lleol yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman o ddydd Mawrth 3 Ebrill. Dewch i roi cynnig ar weithgareddau megis beicio, pêl-rwyd, hoci, rygbi, athletau ac aml-sgiliau a llawer mwy. Mae’r gweithgareddau’n addas i blant dan 11 oed o bob gallu. Rhaid i’r plant fod yng nghwmni oedolyn/gwarcheidwad ar bob adeg. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.